Cardiff Capital Region
07/04/2026
🌍 Heddiw yw Diwrnod Iechyd y Byd💙
🏙️Mae'n gyfle i feddwl am yr hyn sy'n helpu pobl i fyw bywydau iachach a hapusach, nid yn unig yn fyd-eang, ond yma yn ein rhanbarth.
🤝Rydym yn falch o gefnogi prosiectau fel IQ Endoscopes a Antiverse, sy'n dod â phobl ynghyd i wella iechyd a gofal trwy arloesi a chydweithio.
🌱 Oherwydd mae adeiladu dyfodol iachach yn dechrau gyda'r gwaith sy'n digwydd yn ein cymunedau ein hunain.
Dysgwch fwy am y prosiectau rydym yn eu cefnogi, dolen yn y sylwadau.🔗
19/03/2026
Eid Mubarak! Dymuniadau gorau i bawb sy’n dathlu Eid al-Fitr eleni.
Happy Eid Mubarak! Best wishes to everyone who is celebrating Eid al-Fitr this year.
📣Mae gwell trafnidiaeth yn dod i gymunedau ledled de-ddwyrain Cymru 🚌🚄
🛣️Rydym wedi sicrhau £48.5m mewn cyllid i gefnogi gwelliannau trafnidiaeth newydd ledled y rhanbarth.
Bydd y buddsoddiad yn helpu i gyflawni prosiectau gan gynnwys uwchraddio Heol Casnewydd yng Nghaerdydd, Cyfnewidfa Caerffili, a Ffordd Gyswllt Porth Cynon, fydd yn ei gwneud hi'n haws ac yn fwy diogel i bobl deithio i'r gwaith, yr ysgol, gofal iechyd ac i ymweld â theulu a ffrindiau.
🏗️chr yn ochr â gwelliannau seilwaith mawr, bydd y rhaglen hefyd yn cefnogi uwchraddio diogelwch ffyrdd, prosiectau teithio cynaliadwy a rhaglenni newid ymddygiad i helpu i greu ffyrdd glanach a mwy hygyrch o symud o gwmpas ein cymunedau.
Mae'r cyfan yn rhan o weledigaeth hirdymor i adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth mwy cysylltiedig a gwyrdd i bobl de-ddwyrain Cymru.
Dysgwch fwy yn yr erthygl lawn ⬇️
Click here to claim your Sponsored Listing.
Category
Contact the organisation
Telephone
Address
Sbarc
Cardiff