Undeb Aberystwyth
13/06/2026
Mae Diogelwch Myfyrwyr o Bwys | Student Safety Matters
*English below*
Eleni, mae eich Undeb Myfyrwyr wedi bod yn gweithio gyda myfyrwyr a’r gymuned i fynd i’r afael â phryderon ynghylch diogelwch yn y dref, yn enwedig ynghylch sbeicio diodydd ar y campws a’r tu hwnt.
🗣️Rydyn ni wedi gwrando.
Mae ein tîm ymgyrchu wedi bod allan yn y gymuned trwy gydol y flwyddyn, yn siarad yn uniongyrchol â myfyrwyr ac yn gwrando ar eu profiadau bywyd. Trwy gasglu straeon personol ac adborth gonest, rydyn ni’n adnabod beth sydd wrth wraidd y problemau. Un o’r problemau rydyn ni’n mynd i’r afael â hi yw nad yw myfyrwyr yn teimlo’n ddiogel yn cerdded gyda’r nos. Trwy eich hanesion chi, gallem ni gael syniad o ba lefydd y mae myfyrwyr yn teimlo’n saff yn y dref ac ar y campws a lle nad ydynt yn teimlo’n saff.
Dywedodd myfyrwyr wrthym fod golau gwell yn bwysig nid o ran diogelwch yn unig ond hygyrchedd hefyd. Dyna rywbeth rydyn ni’n ei flaenoriaethu yn ystod ein teithiau cerdded diogelwch wrth i ni weithio i wneud y dref yn saffach i bawb.
Mae’r lleisiau hyn o bwys a nhwthau sy’n ysgogi gweithredu go iawn ar hyn o bryd. Mae pob sgwrs yn helpu llywio’r gwaith rydyn ni’n ei gyflawni a’r newidiadau rydyn ni’n dadlau drostynt✨
🚶♀️Y Gweithredu.
Mehefin 2il, ymunodd staff yr Undeb â Gwasanaethau’r Myfyrwyr, Cyngor y Dref a’r Sir, ac ymgyrchwyr o’r myfyrwyr am daith gerdded ddiogelwch oddeutu’r dref gyda’r hwyr. Ymwelon ni i gyd â lleoliadau pwysig a adnabuwyd yn anniogel gan fyfyrwyr, yn canolbwyntio ar yr hyn y gallwn ei newid gan gynnwys gwella golau stryd.
Ardal bwysig sy’n destun adolygiad yw tir y castell. Rydyn ni’n trafod opsiynau golau cynnil a fydd yn gwarchod harddwch yr ardal tra’n ei gwneud yn saffach i bobl gerdded trwyddi yn y nos.
Pwerus oedd dod â phawb ynghyd: cryfhau partneriaethau, rhannu syniadau, ac ymrwymo i weithio ar y cyd wrth fwrw ymlaen.
Diolch o galon i bawb ymunodd â ni ac a gefnogodd y gwaith hwn. Diolch yn fawr i Shelly Childs o Gyngor y Dref, Maer Aberystwyth, Emlyn Jones, ac Alun Williams, Dirprwy Arweinydd Cyngor Ceredigion am fynychu ac am gymryd rhan fawr yn y trafod. Rydyn ni’n edrych ymlaen at ymladd dros dref lle mae pawb yn teimlo wedi’u diogelu, wedi’u gweld ac wedi’u cefnogi.
➡️Y Camau Nesaf.
Byddwn yn mynd am dro diogelwch tebyg o amgylch y campws i adnabod pryderon ynghylch diogelwch gyda’r nos, tra’n parhau â’n sgyrsiau gyda chyngor y dref a Gwasanaethau’r Myfyrwyr. Daeth y daith gerdded â chyfleoedd cryf i weithio ar y cyd i’r amlwg, a byddwn yn rhoi’r diweddaraf i chi bob cam o’r ffordd.
Myfyrwyr sy’n ysgogi’r ymgyrch hwn, a gyda’n gilydd rydyn ni’n gwneud ein cymunedau’n saffach📢
*************
This year, your Students’ Union has been working with students and the community to tackle safety concerns in town, especially around spiking incidents both on and off campus.
🗣️ We’ve been listening.
Our campaign team has been out in the community all year, speaking directly with students and listening to their lived experiences. By collecting personal stories and honest feedback, we’re building a clearer picture of what the problems are. One of the problems we are tackling is that students don’t feel safe walking at night. Through your stories, we have been able to identify where students do and don’t feel safe in town and on campus.
Students told us that better lighting matters not just for safety, but for accessibility too. That’s something we’re prioritising during our safety walks as we work to make town safer for everyone.
These voices matter and they’re driving real action right now. Every conversation helps shape the work we’re doing and the changes we’re pushing for ✨
🚶♀️ The Action.
On 2nd June, SU staff joined Student Services, the town and county council, and student campaigners for an evening safety walk around town. Together, we visited key locations students identified as unsafe, focusing on what we can change, including improvements to street lighting.
One key area under review is the castle grounds. We’re exploring subtle lighting options that protect the beauty of the area while making it safer to walk through at night.
It was powerful to bring everyone together: strengthening partnerships, sharing ideas, and committing to working collaboratively going forward.
Huge thanks to everyone who joined us and supported this work. A big thank you to Shelly Childs from the Town Council, the Mayor of Aberystwyth Emlyn Jones, and Alun Williams the Deputy Leader of Ceredigion County Council for attending and being so engaged in discussions. We’re excited to keep pushing for a town where everyone feels safe, seen, and supported.
➡️ Next Steps.
We’ll be taking similar safety walks around campus to identify night-time safety concerns, while continuing conversations with the town council and Student Services. The walk highlighted some strong opportunities to work together, and we’ll be keeping you updated every step of the way.
This campaign is powered by students, and together we’re making our community safer 📢
09/06/2026
Caru Aber ❤️🔥// Love Aber ❤️🔥
02/06/2026
*English below*
Te cafodd ei dywallt, sgons cafodd eu bwyta ac enillwyd gwobrau staff!☕️🍰🏆 Prynhawn gwych yn dathlu diwedd y flwyddyn gyda thîm staff yr Undeb. Diolch i bawb am wneud hi’n flwyddyn mor wych! Nawr ymlaen at gynllunio Graddau a Freshers 🎉
******
Tea was poured, scones were eaten and staff awards were won!☕️🍰🏆 A brilliant afternoon celebrating the end of the year with the Undeb staff team. Thanks to everyone for making it such a great year! Now onto Graduation & Freshers planning 🎉
Click here to claim your Sponsored Listing.
Category
Contact the university
Website
Address
Penglais
Aberystwyth
SY233DX
Opening Hours
| Monday | 9am - 5pm |
| Tuesday | 9am - 5pm |
| Wednesday | 9am - 5pm |
| Thursday | 9am - 5pm |
| Friday | 9am - 5pm |